Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 3 Tachwedd 2016

Amser: 09.18 - 15.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3775


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Rhiannon Tudor Edwards, Cyfarwyddwr Ymchwil Economeg Iechyd, Prifysgol Bangor

Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru

Alan Brace, Llywodraeth Cymru

Albert Heaney, Llywodraeth Cymru

Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol, Chief Medial Officer

Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru

Chris Brereton, Llywodraeth Cymru

Andrew Evans, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Sarah Beasley (Clerc)

Claire Morris (Ail Glerc)

Zoe Kelland (Dirprwy Glerc)

Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol)

Stephen Boyce (Ymchwilydd)

Sarah Hatherley (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 429KB) Gweld fel HTML (245KB)

 

1       Paratoi ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017/18

1.1 Clywodd y Pwyllgor gan yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyfarwyddwr Ymchwil Economeg Iechyd, Prifysgol Bangor, fel rhan o'i baratoadau ar gyfer craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18.

 

2       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

3       Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon; Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru; Alan Brace, Cyfarwyddwr Cyllid; ac Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio.

 

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1     Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

5       Trafod y dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

5.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd, yn dilyn y sesiwn hon, yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn gofyn rhai cwestiynau ychwanegol a gwneud rhai sylwadau ychwanegol ynghylch y gyllideb ddrafft.

 

6       Sesiwn friffio dechnegol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, Chris Tudor-Smith, yr Uwch Swyddog Cyfrifol, Chris Brereton, Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ac Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol.